|
|
|
Sefydlwyd y Ganolfan gan Wasanaethau
Cymdeithasol Cyngor Sir Clwyd a oedd yn gweithio gyda phobl leol ag anableddau corfforol a
nam ar eu synhwyrau. Bur Swyddfa Gymreig yn talu hanner costau cynnal y Ganolfan yn
ystod y blynyddoedd cyntaf.
Y llun ar y chwith:Helen Cookson, gwirfoddolwr, yn 1995
Roedd tri aelod staff amser llawn yn gyfrifol am wasanaeth cynghori a gwybodaeth yngl n ag anabledd, gyda chymorth tîm o wirfoddolwyr ag anableddau, yn ymdrin â dros 4,000 o ymholiadau pob blwyddyn.
Yr hyn a ddywedwyd am y Ganolfan Gweithredu
ar gyfer Anabledd yn 1996: "Lle ardderchog Grwp
Cefnogi ME Posteri Hyfryd Clwb Yr
Wyddgrug ar gyfer Y Byddar O na fyddai llefydd tebyg mewn rhagor o
ardaloedd - Rhwydwaith Cymorth i Ferched Cymru Pobl ardderchog, coffi da - Grwp Gweithredu ar gyfer Ieuenctid Anabl Gwasanaeth Ardderchog
Gofal Henoed Gwych Canolfan MS Saltney
Pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng
Nghymru yn 1996 daeth Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am y Ganolfan. Yn 1998 symudwyd y staff, Ian Jones, Wendy Jones a David N Jones Ty'r Binwydden yn Ffordd Clayton, Yr Wyddgrug a chaewyd drysaur Ganolfan Gweithredu ym Mwcle am y tro olaf.
Yn 1999 symudwyd Ian Jones i Neuadd
y Sir, Yr Wyddgrug, ac yno y bun gweithio nes iddo symud i swydd newydd yng
Nghilgwri yn 2002. Parhaodd y staff âu gwaith
dan faner Gweithredu ar gyfer Anabledd Sir y Fflint tan 2002, pan symudodd y gwaith
gwybodaeth yngln ag anabledd ir
elusen a elwir Fforwm Anabledd Sir y Fflint. Roedd Wendy Jones a David N. Jones ar ôl, a hwy a ffurfiodd yr Uned Gwybodaeth Gyhoeddus, rhan o Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol i oedolion Cyngor Sir y Fflint.
Y llun ar y chwith: Cadeirydd DisAware, Kevin Walsh, yn 1994
Y llun isod: Pauline Dutton, Rosemary Hughes a Val Blundell, gwirfoddolwyr, yn 1994
|
|
Webkeeper: David N Jones Page Last Updated: 09/11/2005 |